Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2

 

Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r prif newidiadau a wnaed i Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (‘y Bil’) yn ystod trafodion Cyfnod 2.

Cefndir

Cyflwynwyd y Bil gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am y Gymraeg, (“y Comisiynydd”), ar 30 Ionawr 2012 ac fe’i cyfeiriwyd wedyn gan y Pwyllgor Busnes at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol (“y Pwyllgor”) ar gyfer proses graffu Cyfnod 1. Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar 8 Mai 2012.

Cymeradwywyd y Bil yn unfrydol gan y Cynulliad yng Nghyfnod 1 yn dilyn dadl ar ei egwyddorion cyffredinol yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai 2012. Yn dilyn hynny, cytunodd yr Aelodau ar benderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2012.

Dechreuodd trafodion Cyfnod 2 ar 17 Mai 2012. Cyflwynwyd cyfanswm o 23 o welliannau (Comisiwn y Cynulliad a gyflwynodd saith ohonynt). Ystyriodd a gwaredodd y Pwyllgor y gwelliannau yn ei gyfarfod ar 21 Mehefin 2012.

Derbyniwyd y gwelliannau a ganlyn yng nghyfnod 2

Derbyniwyd cyfanswm o naw o welliannau gan y Pwyllgor yn ystod trafodion Cyfnod 2. Roedd naw gwelliant arall, naill ai a dynnwyd yn ôl, neu nas cynigiwyd, yn ystod y cyfarfod, cyn pleidleisio arnynt; gwrthodwyd dau a thynnwyd tri gwelliant yn ôl cyn y ddadl. Mae’r prif newidiadau a wnaed i’r Bil yn sgîl y gwelliannau a dderbyniwyd wedi’u cynnwys isod:

 

Cofnod o Drafodion y Cynulliad

¡Mae gwelliant 1, a gyflwynwyd gan y Comisiynydd, yn ychwanegu gofyniad i Gomisiwn y Cynulliad gynhyrchu cofnod cwbl ddwyieithog o drafodion Cyfarfod Llawn y Cynulliad yn nwy iaith swyddogol y Cynulliad. Nid yw’r ddyletswydd hon yn cynnwys cynhyrchu cofnodion dwyieithog o gyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau’r Cynulliad. Mae gwelliannau 2 a 3, a gyflwynwyd gan y Comisiynydd hefyd, yn welliannau technegol canlyniadol i welliant 1.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

¡Mae gwelliant 4, a gyflwynwyd gan y Comisiynydd, yn ceisio mynd i’r afael â phryderon a godwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad, ac mae’n ychwanegu pum elfen newydd y bydd yn rhaid i Gynllun Ieithoedd Swyddogol (“y Cynllun”) eu cynnwys. Yr elfennau yw:

o  camau yn ymwneud ag ymgysylltiad y cyhoedd â’r Cynulliad;

o  pennu targedau ac amserlenni o fewn y Cynllun;

o  dyrannu cyfrifoldebau er mwyn hwyluso’r gwaith o weithredu’r Cynllun;

o  dull o fesur y cynnydd a wneir o ran gweithredu’r Cynllun; a

o  strategaeth ar gyfer sicrhau bod gan staff y Cynulliad y sgiliau iaith sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod modd gweithredu’r Cynllun.

¡Mae gwelliant 5, a gyflwynwyd gan y Comisiynydd, yn dileu is-baragraff 2(6) o’r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor.

¡Mae gwelliant 16, a gyflwynwyd gan Aled Roberts, yn disodli’r geiriau “relating to” gyda “for” yn is-baragraff 2(5) yn Adran 2.

¡Mae gwelliant 17, a gyflwynwyd gan Aled Roberts, yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun gynnwys darpariaethau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn ystod cyfarfodydd llawn, pwyllgorau ac is-bwyllgorau y Cynulliad.

Adolygu’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

¡Mae gwelliannau 6 a 7, a gyflwynwyd gan y Comisiynydd, yn disodli’r gofyniad i Gomisiwn y Cynulliad adolygu’r Cynllun bob pum mlynedd, gyda gofyniad bod adolygiadau o’r fath yn cael eu cynnal cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl Etholiad Cyffredinol yng Nghymru, yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor.

Ymrwymiadau a wnaed gan y Comisiynydd

Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ymrwymodd y Comisiynydd i ystyried y materion a godwyd yn sgîl wyth o welliannau. Cafodd pob un o’r gwelliannau hyn naill ai eu tynnu yn ôl, neu ni chawsant eu cynnig gan yr Aelodau dan sylw, cyn y bleidlais, a hynny yng ngoleuni’r sicrwydd a roddwyd gan y Comisiynydd yn y cyfarfod, y caiff y materion hyn eu trafod ymhellach cyn dadl Cyfnod 3. Ceir  manylion y gwelliannau hyn isod:

 

Swyddog i fod yn gyfrifol am y Gymraeg

¡Roedd gwelliant 11, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins, yn ceisio creu swydd yng Nghomisiwn y Cynulliad, i fod yn gyfrifol am roi darpariaethau’r Bil ar waith.

Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol

¡Roedd gwelliant 18, a gyflwynwyd gan Aled Roberts, yn ceisio sicrhau ei bod yn ofynnol darparu cyfieithu ar y pryd ym mhob cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ar ystâd y Cynulliad, ac nid mewn cyfarfodydd llawn, cyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau yn unig.

¡Roedd gwelliant 20, a gyflwynwyd gan Aled Roberts, yn ceisio sicrhau bod y cyhoedd yn gallu cyfathrebu â’r Cynulliad yn eu dewis iaith, o’r ddwy iaith swyddogol.

¡Roedd gwelliant 21, a gyflwynwyd gan Aled Roberts, yn ceisio sicrhau y byddai rhaglen yn cael ei chynnwys yn y Cynllun i sicrhau gwelliant parhaus yn y defnydd mewnol  o’r Gymraeg yn y Cynulliad.

¡Roedd gwelliant 4A, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins, yn ceisio dileu’r geiriau “subject to any exceptions identified in the Scheme” o’r geiriad yng ngwelliant 4, a oedd wedi’i basio gan y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 2 ar 22 Mai 2012.

¡Roedd gwelliant 12, a gyflwynwyd gan Bethan Jenkins, yn ceisio ei gwneud yn ofynnol bod dogfennau ymchwil a baratoir gan Gomisiwn y Cynulliad i’w defnyddio gan Aelodau’r Cynulliad yn nhrafodion y Cynulliad, yn cael eu darparu yn y ddwy iaith swyddogol.

Trefniadau ar gyfer adroddiadau blynyddol

¡Roedd gwelliant 14, a gyflwynwyd gan Suzy Davies, yn ceisio ei gwneud yn ofynnol bod adroddiad blynyddol statudol Comisiwn y Cynulliad yn cynnwys cyfeiriadau penodol at y camau a nodir yn is-baragraff (5) o’r Bil (sy’n amlinellu’r hyn y mae’n rhaid i’r Cynllun ei gynnwys).

Ymgynghori

¡Roedd gwelliant 15, a gyflwynwyd gan Suzy Davies, yn ceisio sicrhau na fyddai Comisiwn y Cynulliad yn gallu cyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol oni bai ei fod wedi ymgynghori â “such parties as the Assembly Commission considers appropriate”.

Y camau nesaf

Mae fersiwn ddiwygiedig o’r Bil wedi’i pharatoi ac mae ar gael ar wefan y Bil. Bydd Memorandwm Esboniadol diwygiedig hefyd yn cael ei baratoi a’i gyhoeddi maes o law. Dechreuodd Cyfnod 3 ar 22 Mehefin 2012 (y diwrnod ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2). Caiff Aelodau gyflwyno eu gwelliannau drwy’r Swyddfa Ddeddfwriaeth (SwyddfaDdeddfwriaeth@cymru.gov.uk). Cynhelir dadl Cyfnod 3 ar ddechrau tymor yr hydref.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y Bil, cysylltwch â Gareth Williams, y Clerc (gareth.williams@cymru.gov.uk) neu Owain Roberts yn y Gwasanaeth Ymchwil (owain.roberts@cymru.gov.uk).